Ymylol

12 - 20 Medi 2025 – Am ddim!
12Dydd Gwener21:30-22:30Cyrill Ibrahim (piano)
Harmonie du soir
Lleoliad: Cadeirlan Llanelwy
13Dydd Sadwrn21:30-23:00Joshua Lascar
Gitâr Jazz
Lleoliad: The New Inn, Llanelwy
17Dydd Mercher17:30-23:00Noson Meicroffon AgoredLleoliad: Bwyty a Bar Nant y Felin, Llanrhaeadr
18Dydd Iau21:30-23:00Prof Mererid Hopwood
Noson o Farddoniaeth
Lleoliad: Jacob’s Ladder, Llanelwy
Niferoedd cyfyngedig - Anfonwch e-bost at admin@nwimf.com i archebu
19Dydd Gwener21:30-23:00Jillian Bain Christie (soprano) a John Frederick Hudson (piano)
Noson Cabaret a Chân Americanaidd
Lleoliad: The New Inn, Llanelwy
20Dydd Sadwrn21:30-23:00Manon James a Katie Gill
Noson Comedi Gogledd Cymru
Lleoliad: The New Inn, Llanelwy
20Dydd Sadwrn21:30-23:00Jude Lane a Paula Darwish
Sesiynau Cyfansoddwyr ‘The Lighted Stage’
Lleoliad: The Barrow, Llanelwy

Dydd Gwener 12 Medi, 21:30-22:30
Cyrill Ibrahim (piano)
Harmonie du soir
Digwyddiad rhad ac am ddim yng Nghadeirlan Llanelwy. Dim angen archebu.

Rhaglan
Frédéric Chopin – Nocturne in C minor, Op. 48 No. 1
Franz Schubert – Impromptu in G-flat major, Op. 90 No. 3
Claude Debussy – Clair de Lune
John Frederick Hudson – Penumbra (Welsh Premiere)
Philip Glass – Étude No. 6
Franz Liszt – Liebestraum No. 3
Théophile Krosi-Douté – A Twilight on the Equinox (World Premiere)
Ludwig van Beethoven – Piano Sonata No. 14 in C-sharp minor, Op. 27 No. 2 “Moonlight”
I. Adagio sostenuto
II. Allegretto
III. Presto agitato
Franz Liszt – Transcendental Étude No. 11 – Harmonies du Soir

Nodyn yr Artist

Mae’r rhaglen hon, ‘Harmonie du Soir’, wedi’i hysbrydoli gan gerdd Charles Baudelaire o’r un enw — myfyrdod ar awr y cyfnos fel gofod o atgof, trawsnewidiad, ac ymwelediad. 

Mae’r gweithiau ‘rydw i wedi’u dewis yn plethu golau a thywyllwch, hiraeth a gweledigaeth, agosatrwydd a throsgynoldeb. O Nocturne fonheddig Chopin i ddrama olau lleuad Beethoven ac Étude disglair olaf Liszt, mae’r gerddoriaeth hon yn symud trwy dirwedd emosiynol y nos — walts melancolaidd, arogl sy’n ymdroi, fflach o atgof. 

Mae’r cyngerdd hwn hefyd yn cynnwys dau berfformiad cyntaf: ‘Penumbra’ gan John Frederick Hudson, gwaith o gynildeb atmosfferig mawr, a ‘A Twilight on the Equinox’ gan Théophile Krosi-Douté, a gomisiynwyd yn arbennig gan GGRGC. Mae’r gweithiau hyn yn siarad ag ysbryd yr achlysur hwn: dathliad o greadigrwydd, mewnsylliad, a deialog ddiwylliannol.

— Cyrill Ibrahim

Mae digwyddiadau ymylol yn y The New Inn (Ffordd Dinbych Isaf, Llanelwy) yn rhad ac am ddim. Nid oes angen archebu lle. Mae parcio am ddim wrth ochr y dafarn. Mae’r New Inn yn lleoliad agos-atoch sy’n cynnig cwrw go iawn a diodydd eraill. Mae rhagor o wybodaeth a sut i ddod o hyd i’r New Inn yma:
https://www.jwlees.co.uk/venue/new-inn
https://www.facebook.com/NewInn13

Dydd Mercher 17eg Medi, 17.30 - 23.00
Noson Meicroffon Agored
Bwyty a Bar Nant y Felin, Llanrhaeadr
Noson o gerddoriaeth, bwyd, ac awyrgylch da!
Dechreuwch eich noson gyda phryd blasus cyn i’r gerddoriaeth gychwyn am 20.00. Yna, arhoswch o gwmpas o 20.30 wrth i dalent leol gymryd y llwyfan am sesiwn hamddenol. P’un a ydych chi’n gerddor sy’n barod i jamio, neu ddim ond mewn hwyliau i gael bwyd gwych a cherddoriaeth fyw, byddem wrth ein bodd yn eich gweld. Mae croeso i unrhyw un ac mae gennym gitâr a phiano ar fenthyg i bobl eu chwarae os dymunent.
https://nantyfelin.co.uk
https://www.facebook.com/profile.php?id=100059273300359

Noson o Farddoniaeth gyda Mererid Hopwood - Mae hwn yn ddigwyddiad rhad ac am ddim (sy’n cynnwys diod am ddim) er bod niferoedd yn gyfyngedig iawn. Archebwch gyda Caroline Thomas, Rheolwr yr Ŵyl cyn gynted â phosibl i osgoi siom - admin@nwimf.com.
https://www.facebook.com/JacobsLadderStAsaph

Sesiynau Cyfansoddwr Caneuon ‘The Lighted Stage’ gyda Jude Lane a Paula Darwish. Digwyddiad rhad ac am ddim yn y Barrow Inn, Stryd Fawr, Llanelwy. Dim angen archebu.
https://www.facebook.com/TheBarrowStAsaph
https://www.facebook.com/TheLightedStage