11 – 20 Medi 2025
Eglwys Gadeiriol Llanelwy
Thema: Canfyddiadau
Swyddfa Docynnau
Archebu ar lein
Theatr Clwyd dros y ffôn ar gyfer e-docynnau: 01352 344101 (Llun - Sul, 10 - 8)
Cathedral Frames, Llanelwy: 07471 318723 (Mer - Gwe, 10 - 4)
Croeso gan y Cyfarwyddwr Artistig
Mae’n bleser mawr gen i eich croesawu i Ŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru 2025. Thema ein gŵyl ar gyfer 2025 yw ‘Canfyddiadau’ – y cysylltiad cryf rhwng cerddoriaeth a’r meddwl dynol. Ein nod yw archwilio pwysigrwydd cerddoriaeth a’r celfyddydau wrth gefnogi a hyrwyddo iechyd meddwl da, a thrwy gyfres o gyngherddau, gweithdai, dosbarthiadau meistr a thrafodaethau, ‘rydym yn archwilio agweddau cadarnhaol cerddoriaeth ar gyfer ein lles meddyliol.
Mae ein gŵyl yn agor gydag un o denoriaid gorau ei genhedlaeth – yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf yn yr ŵyl – Joseph Calleja mewn rhaglen o ariâu byd-enwog sydd yn cynnwys y pianydd Ellis Thomas, a’r soprano Branwen Medi Jones. Mae hwn yn sicr o fod yn un o’n cyngherddau mwyaf poblogaidd. ‘Rydym hefyd yn croesawu’r grŵp lleisiol enwog, APOLLO5 i’r ŵyl am y tro cyntaf, wrth i’r côr poblogaidd hwn ddod â noson ddifyr a diddan o gerddoriaeth gorawl o gyfnod Tallis a Purcell i ganeuon gwerin a phopeth rhyngddynt.
Mae band pres byd-enwog Black Dyke, dan arweiniad yr Athro Nicholas Childs yn anelu at godi tô’r Gadeirlan wrth iddynt gyflwyno rhaglen o ffefrynnau band pres cyffrous, ochr yn ochr â gweithiau gwreiddiol ar gyfer band. ‘Rydym hefyd yn croesawu’r gyfansoddwraig wych i deledu a ffilm, Debbie Wiseman OBE, i Lanelwy am y tro cyntaf wrth iddi siarad am ei cherddoriaeth ar gyfer rhai o ffilmiau a sioeau teledu mwyaf poblogaidd y DU gan gynnwys yr annwyl, Wolf Hall, gyda Zeb Soanes o Classic FM – fe’i recordir yn fyw ar gyfer Classic FM. Bydd cerddorfa Sinfonia NEW, a’r arweinydd Rob Guy yn perfformio’r gerddoriaeth i ni, gyda’r soprano Tesni Jones hefyd, yn cymryd rhan.
Mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC – sydd wastad yn ffefryn – yn dod â phumed symffoni boblogaidd Beethoven i’r Gadeirlan am y tro cyntaf erioed ynghyd â chyfansoddiadau gŵr annwyl y Frenhines Victoria, y Tywysog Albert, mewn trefniadau newydd gan Paul Mealor (a gomisiynwyd ar gyfer Pen-blwydd y Brenin Siarl yn 75 oed), yn cynnwys y tenor Gwilym Bowen. Cawn ganfyddiadau atgofus athro’r Tywysog Albert, Felix Mendelssohn, o dirwedd yr Alban lle’r oedd yn aml yn treulio gwyliau. Hefyd, sgôr gerddorfaol gyntaf Grace Williams, un o gyfansoddwyr blaenllaw Cymru yn yr 20fed ganrif, Hen Walia, sy’n ymgorffori’r hwiangerdd adnabyddus, Huna blentyn (Suo Gân). ‘Rydym hefyd yn croesawu’n ôl Undeb Corawl a Cherddorfa Gogledd Cymru dan arweiniad y disglair Trystan Lewis gyda pherfformiad byd cyntaf o offeren yn y Gymraeg a ddarganfuwyd yn ddiweddar, gan y cyfansoddwr o Ogledd Cymru, Caradog Roberts (a fu farw ym 1935), a requiem i ddathlu pen-blwydd Syr John Rutter yn 80 oed.
Roedd ein Gŵyl Ymylol yn newydd i ni y llynedd ac mae’n ôl yn hyderus gyda rhaglen yn cynnwys y pianydd gwych Cyrill Ibrahim gyda cherddoriaeth y nôs, ‘Harmonie du soir’; Gitâr Jazz gan Josh Lascar; Mererid Hopwood, un o feirdd mwyaf nodedig Cymru; Noson Cabaret a Chaneuon Americanaidd gyda’r soprano Jillian Bain Christie a’r pianydd John Frederick Hudson; Sesiynau Cyfansoddi Caneuon The Lighted Stage gyda Jude Lane a Paula Darwish; a’n Noson Gomedi Gogledd Cymru boblogaidd gyda’r gwych Manon James a Katie Gill. Dewch i ymuno â ni mewn amrywiol fannau yn Llanelwy a mwynhau cerddoriaeth, barddoniaeth a chomedi mewn awyrgylch mwy hamddenol mewn lleoliad hwyr-y-nos dros wydraid o’ch hoff ddiod.
Mae’r pianydd enwog o Gymru, Iwan Llewelyn-Jones, yn dychwelyd gyda rhaglen sy’n archwilio cerddoriaeth a’r meddwl. Rydym hefyd yn falch iawn o groesawu’r seiciatrydd nodedig yr Athro Henrietta Bowden-Jones OBE a fydd yn traddodi darlith yr ŵyl, ‘Cerddoriaeth a’r Meddwl’. Mae ein gwaith allgymorth cymunedol yn parhau i fod o bwys hanfodol i ni. Bydd cerddorion proffesiynol o Live Music Now Cymru, y cerddor Sioned Webb a’r artistiaid gweledol Ben Davis a Jude Wood yn cyflwyno digwyddiadau cymunedol mewn ysgolion, ysbytai cymunedol, cartrefi gofal a Hosbis Sant Cyndeyrn. ‘Rydym hefyd yn cynnal dosbarth meistr lleisiol gyda Rebecca Evans CBE; ein cyngerdd Dementia Gyfeillgar; gweithdy galw heibio i bobl sy’n byw gyda Dementia gyda David a Caroline o Gerddorfa’r Halle; dwy sesiwn Camau Cerdd gyda Chanolfan Gerdd William Mathias; dwy sesiwn ‘Ymwybyddiaeth Ofalgar drwy gerddoriaeth’ gyda Will Crawford o ‘quietnote’, cyngerdd cwrs Cyfansoddwyr Ifanc BBC NOW, a’n cyngerdd poblogaidd i Blant Bach a Phobl Ifanc.
‘Rydym wrth ein bodd mai BBC Radio Cymru yw ein partner darlledu eto eleni a byddwn yn darlledu nifer o ddigwyddiadau o’r ŵyl gan gynnwys ein Cerddor Ifanc Cymru Pendine. Gyda chefnogaeth barhaus ein prif noddwyr, Ymddiriedolaeth Celfyddydau a Chymuned Pendine a’r Mario a Gill Kreft rhyfeddol, ‘rydym wrth ein bodd bod y gystadleuaeth hon wedi datblygu’n gyflym i fod yn ddigwyddiad pwysig ym mywyd cerddorol Cymru. ‘Rydym hefyd yn croesawu BBC Radio 3 yn ôl ac yn croesawu, am y tro cyntaf, Classic FM!
Rhywbeth i bawb yn 2025. Fe’ch gwelwn chi yno!
Paul Mealor LVO CStJ
