12 – 21 Medi 2024
Eglwys Gadeiriol Llanelwy
Thema: Trawsnewidiadau
Swyddfa Docynnau
Cliciwch yma i archebu ar-lein
Theatr Clwyd dros y ffôn ar gyfer e-docynnau
01352 344101 (Llun - Sad, 10 - 6)
Cathedral Frames, Llanelwy
01745 582929 (Mer - Gwe, 10 - 4)
Mae tocynnau i blant yn hanner pris. Dim tocyn i ddigwyddiadau am ddim.
Croeso gan y Cyfarwyddwr Artistig
Mae’n anrhydedd ac yn gyffrous i’ch croesawu i Ŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru 2024. Y flwyddyn gyntaf i mi fel Cyfarwyddwr Artistig! Thema ein gŵyl ar gyfer 2024 yw ‘trawsnewidiadau’ a phopeth y mae’n ei gwmpasu o’r byd corfforol a ‘naturiol’ i’r byd barddonol, yr ysbrydol a’r metaffisegol a phopeth rhyngddynt. Ein nod yw archwilio sut y gall y celfyddydau ein trawsnewid ni a’n cymunedau a, thrwy amrywiol ffurfiau, arddulliau a genres celf sut y cawn ninnau yn ein tro, ein trawsnewid ganddynt hwythau.
Rydym yn nodi 90 mlynedd ers Trychineb Glofaol Gresffordd ac wedi cyd-gomisiynu gwaith newydd gan y cyfansoddwr Cymreig, Jon Guy a’r bardd Cymreig, Grahame Davies, ar gyfer NEW Sinfonia a NEW Voices, a fydd yn archwilio’r themâu ‘colled’, ‘hunaniaeth’ a’r ‘amgylchedd’. Rydym hefyd yn nodi 150 mlynedd ers gwaith Mussorgsky’s ‘Pictures at an Exhibition’ a byddwn yn ei ddefnyddio fel man cychwyn i archwilio mewn gweithdai celf a phrosiect cyfansoddi newydd gyda’r pianydd Iwan Llewelyn-Jones, themâu’r rhyfel yn yr Wcrain a rôl cerddoriaeth o fewn gwrthdaro cymunedol a chenedlaethol.
Rydym yn croesawu band pres gorau’r byd, Band Foden i’r ŵyl am y tro cyntaf mewn cyngerdd sy’n siŵr o godi’r to, a byddwn hefyd yn cynnal yr anhygoel, Ar Log – efallai un o fandiau gwerin mwyaf Cymru – mewn noson o’u clasuron poblogaidd a rhai caneuon newydd wedi eu hysgrifennu yn arbennig ar eu cyfer. Bydd y bariton, Jeremy Huw Williams yn archwilio cerddoriaeth ein sylfaenydd William Mathias yn yr hyn a fyddai wedi bod ei ben-blwydd yn 90 oed ac mae’r byd enwog, King’s Singers yn dychwelyd gyda’u lleisiau celfydd a ddisglair.
Mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn dod ag un o’r darnau mwyaf enwog o gerddoriaeth Brydeinig i ni efallai, sef Enigma Variations gan Elgar gyda’i hemyn enwog, Nimrod yn ei chanol, a’r pianydd ifanc a aned yn y Rhyl, Ellis Thomas yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf gyda BBC NOW yn chwarae Concerto rhif 1 i’r Piano a ysgrifennwyd pan oedd Mathias yn eu ieuenctid, yr un oed ag y mae Ellis heddiw. Mae corau cyfun Cymdeithas Gorawl Gogledd Cymru Trystan Lewis yn ymddangos am y tro cyntaf yn yr ŵyl hefyd, gyda pherfformiad o un o gewri’r repertoire corawl, Elias! Bydd yn siwr o fod yn uchafbwynt yr wythnos.
Mae ein Gŵyl Ymylol yn wyriad newydd i ni. Dewch i ymuno â ni mewn tafarndai yn Llanelwy a mwynhau cerddoriaeth mewn awyrgylch mwy hamddenol mewn lleoliad min-nos dros wydraid o’ch hoff ddiod. Mae gennym gyngerdd ymylol RnB/Hip-hop gydag Aisha Kigs, cerddoriaeth werin Gymreig gydag Angharad Jenkins a Patrick Rimes, noson farddoniaeth a llenyddol gydag un o brif lenorion Cymru, Grahame Davies a daw’r ŵyl i ben gyda dathliad o gomedi yn ein noson gyntaf erioed o ‘Noson Gomedi Gogledd Cymru’.
Rydym wrth ein bodd mai BBC Radio Cymru yw ein partner darlledu eleni a byddwn yn darlledu nifer o ddigwyddiadau o’r ŵyl gan gynnwys ein cystadleuaeth newydd sbon ar gyfer Cerddorion Cymreig ifanc – Cerddor Ifanc Cymru Pendine. Gyda chefnogaeth barhaus ein prif noddwyr, Ymddiriedolaeth Celfyddydau a Chymuned Pendine a’r arbennig Mario a Gill Kreft, rydym yn gallu dod â’r gystadleuaeth newydd hon i chi a fydd, gobeithio, yn dod yn ddigwyddiad o bwys ym mywyd cerddorol Cymru.
Mae ein gwaith ymestyn i’r gymuned yn parhau i fod yn hollbwysig i ni. Bydd cerddorion proffesiynol o Live Music Now Cymru ac artistiaid gweledol yn cyflwyno digwyddiadau o fewn ysgolion, cartrefi gofal a Hosbis St Kentigern, ac rydym yn cynnal cyngerdd penodol sy’n ystyriol o ddementia yn ogystal â’n cyngerdd bythol boblogaidd i blant bach.
Roedd cymryd yr awennau gan yr arbennig Ann Atkinson bob amser yn mynd i fod yn her anodd. Mae hi wedi arwain yr ŵyl yn ddi-fai ers ugain mlynedd gyda gweledigaeth ysbrydoledig, gonestrwydd artistig a bob amser yn llawn cynhesrwydd a charedigrwydd. Rwy’n gobeithio y gallaf gyflawni’r her y mae hi wedi’i gosod i mi. A gobeithio y gwnewch ymuno â mi i ddiolch i Ann am ei gwasanaeth rhagorol i’r ŵyl, ein cymuned ac i holl gelfyddydau Gogledd Cymru.
Paul Mealor LVO CStJ